DYLUNIO MEWNOL
Cwmni Dylunio Mewnol dwyieithog wedi’i leoli yng Nghaerdydd s’yn datblygu a darparu dyluniadau mewnol a nodweddion unigryw ar gyfer cleientiaid masnachol a phreswyl ar draws y Deyrnas Unedig.
NI’N DYLUNIO
Gyda’n profiad eang ym maes Pensaernïaeth a Dylunio Mewnol, fe weithiwn i’ch briff i ddatblygu cysyniad dylunio sy’n gwneud y mwyaf o’ch gofod, yn swyddogaethol ac yn esthetaidd.
NI’N DATBLYGU
Fe ddatblygwn cysyniadau mewn i ddyluniadau trylwyr, a’ch tywys trwy’r dewisiadau o ddeunyddiau, gorffeniadau, a chynhyrch sydd ar gael i wireddu y dyluniad.
NI’N DARPARU
Gyda’r manylebau yn eu lle fe baratown rhaglen o waith a chostau, ac fe gydlynwn ein rhwydwaith o gyflenwyr a gweithwyr llafur dibynadwy i wireddu’r dyluniad o fewn y gyllideb, ac ar amser.

EIN POBL
SARAH McCALL-MORGAN
DYLUNYDD PENSAERNÏOL MEWNOL
Sefydlwyd Ongl gan Sarah ym 2014 er mwyn cyfuno ei hangerdd am dylunio, gyda ymagwedd ymarferol at wireddu dyluniadau. Gyda ffocws ar naratif gofodol mae Sarah yn diddori ar y pherthnasau, rhyngweithiadau a phrofiadau y gall cynlluniau mewnol sbarduno ac atgyfnerthu.
DAN MORGAN
DYLUNYDD
Gyda llygad am liw a gwead, persbectif a chanfyddiad mae Dan yn cyfuno ei angerdd am gelf a dylunio i ddatblygu cysyniadau ar gyfer gofodau mewnol. Mae ei gefndir ym myd dylunio a chelfyddyd setiau i’r llwyfan a theledu yn trosglwyddo i greu dyluniadau mewnol sy’n wir trochi eu ddefnyddwyr.
SIMON McCALL
GWAITH COED CWSTWM
Yn Saer Coed profiadol mae Simon a’i rhwydwaith dibynadwy o fasnachwyr proffesiynol a medrus yn troi dyluniadau mewn i realiti. Mae ei ymrwymiad yn y camau cynnar o’r broses dylunio yn golygu bod tichonolrwydd cynlluniau Ongl yn ganolog i ddatblygiad ein syniadau.
EIN STIWDIO
Ffeindiwch chi ni wrthi’n gweithio yn ein stiwdio a gweithdŷ dylunio yng Nghaerdydd, yn datblygu dyluniadau ar gyfer cleientiaid ar draws y Deyrnas Unedig.
EIN CLEIENTIAID
TORRI’R GWÂG ALLAN O’R GWAGLE
Neu am ymweld â ni?
Unit 4 Gabalfa Workshops
Clos Menter, Excelsior Industrial Estate
Cardiff. South Wales.
CF14 3AY